Chwedl Llyn Tegid

llyfrau

Amser maith yn ôl, doedd Llyn Tegid, ddim yn bodoli, ond be oedd yma oedd dyffryn hir, ac yn yn dyffryn hwnnw roedd castell. Yn y castell hwn trigai Tegid Foel a’i wraig Ceridwen. Roedd Tegid Foel yn ddyn cas iawn ac o’r herwydd doedd neb yn ei hoffi. Os oedden nhw yn casau Tegid, redden nhw yn casau ei wraig yn waeth gan ei bod hi yn wrach!

Penderfynodd Tegid Foel gynnal parti mawr yn y castell i ddathlu genedigaeth mab iddynt, a rhoddodd wahoddiad i bawb oedd yn byw yn yr ardal i ddod i’r dathliad. Galwodd hefyd ar delynor oedd yn byw dros y mynyddoedd yn Ysbyty Ifan i chwarae ei delyn yn y parti

Fe ddaeth noson y parti, fe yfodd ac fe yfodd Tegid gostrel ar ôl costrel o fedd ac o ganlyniad fe feddwodd yn ulw, cymaint nes ei fod wedi disgyn i gysgu. Gan fod y brenin yn anhebygol o ddeffro am oriau, fe benderfynodd y trigolion cymryd eu cyfle a mynd adref gan adael y brenin yn cysgu,  gyda’i chwyrniadau yn atseinio o amgylch y castell i gyfeiliant cân y telynor oedd wedi cael ei siarsio gan y brenin cas i chwarae ei delyn drwy’r nos.

Yn sydyn ymddangosodd aderyn bach  a glanio ar ysgwydd y telynor, sibrydodd yn ei glust ‘daw dial…daw dial….dilyn fi’ . Cododd y telynor ei delyn a dilynodd yr aderyn bach allan o’r castell. Fel yr oeddynt yn gadael y castell sylwodd y telynor ar yr cymylau duon oedd yn crynhoi uwch eu pennau. Rhwygodd mellten enfawr yr awyr yn ddwy gyda tharan enfawr yn ei dilyn yn diasbedain drwy’r dyffryn.  Cyn pen dim dechreuodd y glaw ddisgyn fel rhaeadr o’r awyr. Dychrynodd y telynor am ei fywyd  a dechrau rhedeg am y bryniau. Yn ei ofn gollyngodd y delyn.

Fe ddarganfyddodd le i gysgodi ac er gwaethaf y gwynt a’r glaw, y mellt a’r tarannau, llwyddodd i gysgu rhywfaint. Pan ddeffrodd ar doriad y wawr, edrychodd i lawr am y dyffryn hir, ond yn ystod y nos roedd y dyffryn wedi llenwi hefo dŵr, gan foddi y castell a’r brenin cas. Yn ei syndod pan aeth i lawr at y dwr, be oedd yn arnofio ar wyneb y llyn ond ei delyn.

Dyna medde nhw yw y noson pryd cafodd Llyn Tegid ei greu!

Doedd merched ddim yn cael mynd i’r partion yn y castell yn y cyfnod, a dyna sut nad oedd Ceridwen yn y castell ar y noson hon. Aeth hi ar mab i fyw ger y llyn, a phan dyfodd hwnnw , er siom i’w fam ef oedd y creadur mwyaf di-olwg a thwp a gerddodd y ddaear erioed.

A hithau yn wrach, wrth gwrs roedd ganddi stôr o resipis ar gyfer creu gwahanol hud, ac ar ôl chwilio yn frwd, fe ffeindiodd un oedd yn gallu troi rhywun i fod y doethaf yn y byd. Roedd hwn yn galw am roi lot o bethau mewn crochan a’u gadael i ferwi yn ddi-stop am flwyddyn gyfan, ac ar ddiwedd y flwyddyn gyfan dim ond 3 diferyn oedd ar pwerau i droi dyn i fod y doethaf yn y byd.

Galwodd Ceridwen ar fachgen o’r enw Gwion Bach o Lanfaircaereinion i ddod i edrych ar ôl y crochan, i’w droi a gwneud yn siwr fod digon o goed yn y tan oddi tano.  Treuliodd Gwion flwyddyn gyfan yn gwneud yr union hynny ac ar y diwrnod lle oedd y gymysgedd yn barod, rhoddodd un darn yn ormod o goed o dan y grochan a dechreuodd hwnnw ferwi yn wyllt. Neidiodd 3 diferyn allan o’r grochan a glanio ar fys Gwion Bach. Gan fod hwnnw yn ferwedig rhoddod ei fys yn ei geg gan lyncu y 3 diferyn, yr union 3 diferyn oedd yn cynnwys y pwerau goruwchnaturiol oedd yn mynd i’w  droi yn ddyn doethaf yn y byd! Pan sylweddolodd Ceridwen hyn roedd hi yn gynddeiriog, a neidiodd i ddal Gwion gyda’r bwriad o’i gosbi. Gan fod ganddo ef bwerau goruwchnaturiol, trodd ei hun i mewn i sgwarnog a llamu oddi yno nerth ei draed. Gan fod Ceridwen yn wrach trodd ei hun i mewn i filgi a sgrialu ar ôl y sgwarnog.  A’r milgi ar fin dal y sgwarnog trodd Gwion Bach ei hun i mewn i ehedydd a hedfan yn uchel i’r awyr  trod Ceridwen ei hun i mewn i hebog a hedfan ar ei ôl. Pan oedd yr hebog bach o fewn trwch blewyn i fod yng nghrafannau yr hebog, trodd Gwion ei hun i mewn i Eog a neidio mewn i’r llyn, trodd Ceridwen ei hun i mewn i ddyfrgi a nofio ar ol yr eog, a phan oedd hwnnw bron yn ei geg  neidiodd Gwion allan o’r llyn, troi ei hun i mewn i hedyn a chuddio mewn tas wair. Trodd y wrach ei hun i mewn i iar enfawr a phigo, pigo, pigo nes bwyta y das wair gyfan, gan gynnwys yr hedyn a oedd Gwion bach!

Naw mis yn ddiweddarach rhoddodd Ceridwen enedigaeth i fab, sef Gwion Bach wedi ei ail-eni. Gan ei bod hi dal wedi gwylltio wrtho doedd hi mo’i eisiau ac felly fe lapiodd ef mewn carthenni, ei roi mewn basged a’i roi ar lyn Creiglyn Dyfi, llyn uchel yn y mynyddoedd o dan Aran Fawddwy,  tarddiad yr Afon Ddyfi.  Arnofiodd y babi bach yn y fasged lawr a lawr yr afon nes oedd bron yn y môr. Lwcus iawn fod gwr bonheddig yn digwydd mynd am dro ar lan yr afon cyn iddi nosi achos dychmygwch ei syndod pan ffeindiodd y bachgen bach dela yn y byd yn cysgu yn sownd mewn basged yn arnofio ar yr afon.

Cymrodd y bachgen bach yn ei freichiau ac oherwydd fod fod ganddo y talcen tlysaf iddo  weld erioed, fe’i galwodd yn Taliesin!

Tyfodd y bachgen bach i fod yn fardd, y bardd doethaf erioed!

Advertisements