Beth mae lliw yn ei olygu i chi?

Lliwiau

 Dewisiwch 1 lliw a dwedwch wrthyn ni beth mae hwnnw yn ei olygu i chi …

What does colour mean to you?  Choose 1 colour and tell us what it means to you …

DEWCH I WELD EIN CYNHYRCHIAD DIWEDDARAF – GWYN – Am fanylion y daith cliciwch yma 

 

“Gyda lliw yn fy enw, dwi wrth fy modd hefo lliwiau, pob lliw dan haul, pob cyfuniad, ond fe sylwodd ffrind mod i wedi peintio wal mewn 5 sdafell yn fy nhy yn rhyw fath o biws, gan gynnwys wal yn yr ardd, felly mae’n amlwg fod gen i ffefryn! To ni heb sylwi!” Elliw Iwan

Lliw haul,menyn,cywion bach,beic,bloda pîpî’n gwely(hihi!)tywod,caeau ŷd,welingtyns,bloda menyn,melynwy,gwallt Sindy…..a lliw ffedog Nain.Melyn = Hapus!!! Siw Huws

‘Du, llwyd, brown, melyn, glas, gwyrddlas, aur, arian, gwyrdd, oren, coch – Dw i wedi teimlo nhw gyd.’ Eilir Jones

Dydi pethau ddim o hyd yn ddu a gwyn. Weithiau mae pethau yn llwyd. Weithiau mae pethau yn goch a weithiau yn wyrdd! Rhys Mwyn

Fy hoff liw i yw Melyn

Fel yr haul yn T’wynnu’n braf
Mae’n gwneud fi deimlo’n hapus
Ac atgoffa fi o’r hâf. Aled Hall (Tenor, Tri Tenor Cymru)

‘Porffor llachar i fi bob tro. Dyma liw sy’n bloeddio sylw, lliw llawn hyder. Lliw sy’n dweud, ‘Helo, dyma fi!’. Mae fy merched bach yn dwlu gwisgo dillad porffor. Nhw yw fy myd. Porffor fy myd.’ Llinos Dafydd (Newyddiadurwr / Golygydd WCW)

Lliw mwd, a lliw f’esgidiau.

Lliw fy ngwallt, a lliw fy aeliau.
Lliw hen ffasiwn, syml, cynnes,
Lliw’r gitar sy’n llawn o hanes. Huw M

‘Melyn ydi’r unig liw sy’n eich gorfodi i wenu wrth ei ynganu yn iawn. Lliw yr haul ar lunia’r plant, lliw Dydd Sadwrn a lliw fy wy ar fora diog’  Tudur Owen (Digrifwr, Cyflwynydd)

‘Ateb dyn clyfar fyddai gwyn, daw holl liwiau’r enfys o olau gwyn. Ond f’ateb i yw oren.’ Iwan Huws (Cowbois Rhos Botwnog)

Turquoise (Gwyrddlas). Ma’ turquoise yn gwneud i mi deimlo’n gynnes, fel bod ar fy ngwylia’ wrth y môr, neu o ‘flaen y tân yn fy ‘stafell fyw. – Elin Huws (Artist)

“Dwi’n caru coch. Mefus, calonau, crys coch ein tîm rygbi a holl angerdd y ddraig ar ein banner. Heb anghofio’r gwallt coch ar fy mhen!” Mari Lovgreen (Cyflwynydd)

“Melyn ydi’r lliw sy’n neud i fi deimlo’n hapus ar ddiwrnod glawog yn y gaeaf. Rhai o’n hoff bethau ydi llewod, lemon ar grempog, tywod a’r haul sydd hefyd yn felyn. Melyn ydi’r lliw gorau erioed…” Lois Cernyw (Planed Plant/ Stwnsh)

“Oren ydi fy hoff liw i. Dwi’n gwisgo modrwy – sy’n lwmp o blastig oren – ar un o fy mysedd yn ddyddiol, ac yn syml iawn, mae’n neud i mi deimlo’n hapus!” Lisa Gwilym (Cyflwynydd Teledu/ Radio)

‘Gwyrddlas ydi fy lliw i, yn gynhesach na glas, yn garedicach na gwyrdd; lliw sy’n fy nenu ers yn blentyn, lliw fy hoff ddillad, y rhan fwya o ‘nghlust-dlysau a lliw y byd sydd dan y dwr.’ Bethan Gwanas (Awdures)

Porffor! Lliw’r mudiad ffeministaidd ac un o fy hoff lyfre – The Color Purrple gan Alice Walker #GWYN – Sian Howys (Ymgyrchydd)

‘Mae pinc yn annwyl ac yn feddal fel plu. Lliw cariad, fflamingos a lliw fy stafell wely I. Croen babi, moch bach a candi floss yn y ffair.‪Yn sicr- pinc ydy fy hoff liw a fy hoff air!’   Nia Parry (cyflwynydd/ cynhyrchydd)

“Oren ydi’r lliw i mi, Dyma oedd hefyd hoff liw fy nain. Roedd hi’n arlunydd ac yn gallu cyfuno lliwiau hydrefol mewn darluniau ac mewn ystafelloedd byw i greu awyrgylch cynnes a chroesawgar.” Elin Fflur (Cantores a Chyflwynydd)

#Gwyn – lliw llonyddwch, lliw tawelwch, lliw glân a lliw’n ngwallt! (Os ‘lliw’ o gwbl…) Paul Griffiths (Colofnydd  ac adolygydd theatr)

‘Glas yw fy hoff liw…lliw’r awyr ar ddiwrnod braf, lliw fy llygaid, ac i mi, lliw llonyddwch ac ymlacio.’ Rebecca Harries (Actores)

‘Oren, oren ac oren…lliw oren, lliw jeli a fi! Lliw Hapus a chynnes….fel fi, gobeithio!!’ Sali Mali

‘Gwyrdd tywyll ydi fy fferfryn i, mae o’n gwneud i mi feddwl am ganol coedwig dawel ac yn fy atgoffa i o oglau mwsog ar ol cawod o law’ Manon Steffan Ros (Awdures a chantores)

“Glas; rwy’n caru lliw glas – lliw y mor, lliw yr awyr, a’m llygaid…..” – Keith Morris (Ffotograffydd)

“Lliw ein timau cenedlaethol, mae coch gyfystyr â Chymru. Y Ddraig Goch, ddyry gychwyn.” (Coch – Bryn Fôn)

Dwi’n caru melyn.  Y melyn yn yr haul ar ddiwrnod hardd o haf, melynwy, a’r melyn llachar ar lestri te fy nain – Lowri Davies (Artist)

Orange – stands out and shouts! A ‘get ready’ colour (traffic lights) and a colour you can eat – neat! Llinos Lanini (Ffotograffydd)

Dwi’n licio gwisgo welis coch ar ddwrnod llwyd. Coch ydy lliw gwallt fy nghariad a lliw blew fy nghi. Coch ydi’r lliw i mi … Rhian Blythe (Actores)

“Fy hof liw fase wythfed lliw yr enfys. Fedra i ddim ond meddwl bod o yna ond dwi’n methu’n glir a tiwnio’n llgada.” Jac Jones (Artist)

Ers fy mod yn blentyn, y lliw Glas yw fy ffefryn. 
Glas yw lliw fy nghar a Glas yw lliw sawl dilledyn’ Trystan Ellis Morris (Cyflwynydd) 

“Dw i’n cofio eistedd ar wal yn yr ardd gefn yn syllu ar y ser. Mewn twllwch dudew mae’r sêr ddisgleiriaf” Malan Wilkinson (Criw cynhyrchu/ Marchnata GWYN)